
16 09 2025
Datgloi Potensial Dysgu Cymru: Pam fod Addysg Oedolion yn bwysicach nag erioed
Bob mis Medi mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi sylw i rym trawsnewidiol dysgu. Mae’n gyfle i ddathlu pobl a gamodd ôl i addysg ac yn ystyried beth mwy y gallwn ei wneud i sicrhau fod cyfleoedd ar gael i bawb yng Nghymru. Mae canfyddiadau dechreuol Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn ein hatgoffa yn amserol am yr addewid a hefyd yr her.